Deintyddfa Penlan


Cysylltu gyda ni

Cartref > Amdanom

Amdanom


Practis teuluol ydyn ni sy’n cynnig gofal deintyddol gwych yng nghalon Pwllheli. Adeilad rhestredig gradd 2 yw cartref y ddeintyddfa a hynny yng nghanol y dref ac rydym yn falch iawn o fod wedi meithrin sylfaen driw o gwsmeriaid o bob rhan o Ben Llŷn.

Mae Deintyddfa Penlan yn cynnig amrywiaeth o driniaethau - o archwiliadau deintyddol rheolaidd a glanhau proffesiynol i’r teulu i gyd i waith deintyddol cosmetig modern er mwyn rhoi gwell gwên i chi.

Byddwn bob tro’n dewis opsiynau cynaliadwy sy’n garedig i’r amgylchedd pan fydd modd, a hynny ym mhob rhan o waith y practis gan ymdrechu i wella ein harferion amgylcheddol o’r naill flwyddyn i’r llall.

Mae ein tîm proffesiynol a chyfeillgar yn barod i sgwrsio efo chi am eich anghenion...croeso i chi gysylltu.

Elsbeth (Owner and Dentist)

Elsbeth (Perchennog a Deintydd)


Graddiodd Elsbeth yng Nghaerdydd yn 2009. Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn gweithio yn Abertawe ac yng Nghaerdydd, yn 2016, penderfynodd Elsbeth ddod adref gyda’i gŵr a’u ci, Swci. Bu Elsbeth yn gweithio am dros 3 blynedd yng Nghaernarfon cyn penderfynu prynu ei phractis ei hun yma ym Mhwllheli. Mae’n mwynhau pob agwedd ar ei gwaith ac yn ymfalchïo ei bod yn darparu gofal deintyddol cyfeillgar, proffesiynol o safon. Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau hyfforddiant i ddarparu triniaethau aesthetig i’r wyneb a bydd yn cynnig amrywiaeth o driniaethau o’r fath yn y practis.
Mae gan Elsbeth bellach ddau o blant bach bywiog iawn ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau gwersylla gyda’i theulu, nofio yn yr awyr agored a chystadlu mewn triathlons.

Caron (Deintydd)

Caron (Deintydd)


O Fangor mae Caron Pari’n wreiddiol ac fe raddiodd yn Ysgol Ddeintyddol Caerdydd. Ers iddi raddio, mae wedi gweithio ym maes practis cyffredinol yn ogystal ag ym maes deintyddiaeth plant a llawfeddygaeth y wyneb a’r genau. Mae ganddi enw da am fod yn ddeintydd cyfeillgar a chydwybodol. Enillodd Caron gymhwyster o fri’r MFDS gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon a Ffisigwyr Glasgow yn 2021. Mae Caron yn credu’n gryf mewn parhau â’i haddysg er mwyn sicrhau ei bod yn dal i gynnig y gofal posibl i’w chleifion. Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau treulio amser yn y mynyddoedd a choginio.

Rhys Tudur Owen (Deintydd)

Rhys Tudur Owen (Deintydd)


Un o Ynys Môn yw Rhys yn wreiddiol ac fe raddiodd yn ddeintydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2008. Ar ôl hyfforddi am flwyddyn yng Nghaerdydd bu’n gweithio fel deintydd cyffredinol yn Llundain am saith mlynedd. Daeth yn aelod o gyd-gyfadrannau deintyddol (MJDF) Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr yn 2016 cyn symud i Malta a gweithio yno mewn deintyddfa breifat a oedd hefyd yn arbenigo ar waith mewnblannu.

Mae ganddo ddiddordeb brwd a phrofiad helaeth ym maes deintyddiaeth aesthetig, deintyddiaeth ddigidol CAD/CAM, dylunio gwên, triniaethau orthodonteg ac unioni dannedd.

Yn ei amser hamdden, bydd yn mwynhau bwyta allan, amryw o wahanol chwaraeon a mynd ar wyliau o bryd i’w gilydd i fannau newydd a chyffrous.

gwen Owen

Gwen Owen (Deintydd)


(Gwybodaeth yn fuan)

Deintyddfa Penlan - anwen bee

Anwen Bee (Hylenydd)


(Gwybodaeth yn fuan)

Deintyddfa Penlan - victoria

Victoria Cassmore Jones (dental therapist)


(Gwybodaeth yn fuan)

Einir (Nyrs Ddeintyddol)

Einir eVANS (Arweinydd y Practis)


Ymunodd a Einir a’r practis yn Awst 2019 ac fe gyfrestrodd fel nyrs deintyddol yn 2016. Cyn ymuno a’r practis, bu’n gweithio mewn practis dentinddyol yn Caernarfon le dechreuodd ei gyrfa mewn deintyddiaeth. Yn ei hamser hamdden, mae Einir yn mwynhau rhedag ac yn mwynhau treulio amser gydai ei theulu.

Kelly (Nyrs Ddeintyddol)

Kelly Gulliford (NYRS Arweiniol)


Ymunodd Kelly â’r practis ym mis Awst 2019 gan gofrestru fel Nyrs Ddeintyddol wedi’i chymhwyso’n llawn yn 2020. Bu Kelly’n gweithio’n lleol cyn hynny fel cymhorthydd gofal cartref ond penderfynodd ysgwyddo her newydd a hyfforddi i ddod yn Nyrs Ddeintyddol. Yn ei hamser hamdden, mae Kelly’n mwynhau crwydro Penrhyn Llŷn efo’i theulu.

Cara Pilling (Derbynnydd a Nyrs ddeintyddol dan hyfforddiant)

Cara Pilling (Nyrs deintyddol)


Ymunodd Cara â’r practis ym mis Tachwedd 2020 fel Derbynnydd ac Arweinydd Gweinyddol. Cyn dod yma i weithio, bu Cara’n rheoli siop ddillad yn Abersoch am flynyddoedd ac mae hefyd wedi bod yn gweithio fel therapydd harddwch. Mae’n gyfeillgar ac yn broffesiynol ac yn gwbl ddwyieithog. Yn ei hamser hamdden, bydd Cara’n mwynhau mynd ar ei gwyliau yn y garafán efo’i theulu, mynd â’r cŵn am dro a threulio amser efo’i mab.

Deintyddfa Penlan - Rebecca Rice Hughes

Rebecca Rice Hughes (Nyrs ddeintyddol)


(Gwybodaeth yn fuan)

Deintyddfa Penlan - Mai Owen

Mai Owen (Nyrs deintyddol)


(Gwybodaeth yn fuan)

Katarina Gureka

Katarina Gureka (Nyrs deintyddol o dan hyfforddiant)


(Gwybodaeth yn fuan)

Elin Fflur Williams

Elin Fflur Williams (Nyrs deintyddol o dan hyfforddiant)


(Gwybodaeth yn fuan)

Steph Rowlands (Derbynnydd a Nyrs ddeintyddol dan hyfforddiant)

Steph Rowlands (Derbynnydd)


Ymunodd Steph â’r practis ym mis Medi 2020 ac yn fuan iawn, daeth yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Mae ganddi ffordd gyfeillgar a charedig wrth ymwneud â’r cleifion ac â’r staff hefyd. Cyn dechrau yma, bu Steph yn gweithio efo’r henoed â dementia am dros 16 o flynyddoedd. Yn ei hamser hamdden, bydd Steph yn mwynhau mynd ar wyliau dramor gan brofi llefydd newydd efo’i hogiau bach.