Deintyddfa Penlan


Cysylltu gyda ni

Cartref > Triniaethau > Gwynnu Dannedd

Gwynnu Dannedd


Rydym yn cynnig triniaethau gwynnu dannedd yn y ddeintyddfa neu fe allwn ni gynnig triniaethau ichi wynnu’ch dannedd gartref. Mae triniaethau gwynnu Poladay a Polanight yn ddiogel, yn hwylus ac yn hynod o effeithiol, ac fe gewch chi ddewis beth bynnag sydd fwyaf hwylus i chi. Gallwch wynnu’ch dannedd drwy eu trin am 30 munud ddwywaith y dydd neu roi’r driniaeth arnyn nhw dros nos tra’ch bod yn cysgu. Mae Poladay a Polanight yn unigryw am eu bod yn cynnwys cyfran uchel o ddŵr ac wedi’u cynllunio fel eu bod yn sicrhau canlyniadau ardderchog tra’n gwarchod cnawd y dannedd yn ystod y driniaeth.

Gweler lluniau ‘cyn ac wedyn’ ar ein tudalen instragram.