Cartref > Triniaethau > Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol
Rhai o’r gwasanaethau deintyddol cyffredinol y byddwn yn eu cynnig yw archwiliadau deintyddol rheolaidd, glanhau a sgleinio, adfer llenwadau gwyn, coronau ac argaenau, radiograffau, adfer dannedd a’u tynnu.
Rydym yn defnyddio’r technegau a’r deunyddiau diweddaraf wrth wneud gwaith deintyddol a thriniaethau endodontig (trin llwybr y gwreiddyn). Byddwn hefyd yn defnyddio cyfuniad o ddeintyddiaeth fodern a thechnegau arbenigol i ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr o driniaethau sy’n gweddu i chi ac i’ch anghenion.
Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar ofal ataliol, sy’n cynnwys trafod a chynghori ynghylch deiet a iechyd y geg, ac fe allwn daenu fflworid ar eich dannedd i liniaru’r risg o glefydau deintyddol.

© Hawlfraint 2025 - Deintyddfa Penlan - Gwefan gan Delwedd.